Ymchwiliad i bolisi coedwigaeth a choetiroedd - seminar rhanddeiliaid ym Maesteg

Ar 22 Mehefin 2017, cynhaliodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig seminar rhanddeiliaid gyda grwpiau defnyddwyr yn Llyfrgell Llynfi ym Maesteg. Cynlluniwyd y seminar i lywio ymchwiliad y Pwyllgor i bolisi coedwigaeth a choetiroedd yng Nghymru; yn arbennig o ran y gwaith i gyflawni Coetiroedd i Gymru, sef strategaeth Llywodraeth Cymru o dan thema strategol 'Coetiroedd i bobl - gwasanaethu anghenion lleol o ran iechyd, addysg a swyddi'.

Y pynciau trafod oedd:

01. Defnydd cymunedau o goetiroedd - archwilio i ba raddau y mae dulliau effeithiol a strwythurau cymorth ar gyfer ymgysylltiad a chyfranogiad cymunedol.

02. Defnydd o goetiroedd at ddibenion hamdden - archwilio sut y gall coetiroedd a reolir yn dda ddarparu manteision cymdeithasol ac economaidd i bob defnyddiwr a sut y gall y gwahanol ddefnyddiau hamdden o goetiroedd gael eu hyrwyddo a'u rheoli orau.

 

Grŵp 1 - Cysylltiad y gymuned â choetiroedd

Cyfranogwyr:

- Sasha Ufnowska, Llais y Goedwig

- Mark Blackmore, Rhwydwaith Gwirfoddoli Cefn Gwlad Pen-y-bont ar Ogwr

- Rob Jones, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

- Sam Packer, Ymddiriedolaeth Coetiroedd

- Fay Calloway, Cymunedau yn Gyntaf Pen-y-bont ar Ogwr

- Jeremy Dimond, Cymunedau yn Gyntaf Pen-y-bont ar Ogwr

- Rowland Pittard, Fforwm Mynediad Lleol Pen-y-bont ar Ogwr a Chymdeithas Hosteli Ieuenctid

- John Herd, Grŵp Coetir Cwm Llynfi

- Vivienne Herd, Grŵp Coetir Cwm Llynfi

- Noel Thomas, Grŵp Coetir Cwm Llynfi

 

01. A oes digon o gefnogaeth ac arweiniad ar gael i alluogi grwpiau cymunedol i ymgysylltu'n llwyddiannus â choetiroedd? A oes mwy y gall Cyfoeth Naturiol Cymru (NRW) ei wneud i hwyluso gweithgareddau grwpiau cymunedol yn y coetiroedd y mae'n eu rheoli?

- Mae Grŵp Coetir Cwm Llynfi yw grŵp newydd ac anffurfiol. Nid oes gan neb gyfrifoldeb cyffredinol. Byddai'n fuddiol iddynt gael rhywfaint o hyfforddiant a chymorth. Fodd bynnag, mae'r grŵp wedi derbyn cefnogaeth gan fusnesau lleol ac wedi gwneud peth hyfforddiant gyda Chymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr (BAVO).

- Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mewn ymateb i gais gan NRW, mae Llais y Goedwig wedi bod yn gweithio i gysylltu grwpiau i ddarparu rhwydwaith o gefnogaeth cyfoedion. Mae ganddo hefyd ddau aelod o staff yn darparu meithrin gallu a chymorth ar lawr gwlad ond mae'n teimlo nad oes digon o staff gan y prosiect. Er enghraifft, mae Sasha Ufnowska yn gyfrifol am dde Cymru gyfan, sy'n heriol. Mae gwefan Llais y Goedwig yn llawn gwybodaeth ond mae angen staff i gerdded o gwmpas a gweld pobl.

- Gallai Llais y Goedwig wneud cymaint mwy i gefnogi grwpiau coetiroedd cymunedol heblaw am y toriadau cyllidebol mor fawr.

- Mae llawer o grwpiau coetiroedd nad ydynt yn gwybod am grwpiau eraill na sut i gael mynediad at gefnogaeth. Er enghraifft, nid oes gan Grŵp Coetiroedd cwm Llynfi unrhyw fecanwaith ar gyfer ymgysylltu â grwpiau eraill.

- Mae Rhwydwaith Gwirfoddoli Cefn Gwlad Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnwys hyfforddiant a thrwyddedau ar gyfer rhai gweithgareddau coetiroedd, tra bod pecyn cymorth ar gyfer tyfu cymunedol.

- Mae'r Ymddiriedolaeth Coetiroedd yn darparu coed am ddim a gyda chymhorthdal ​​a chyngor ar y coed gorau ar gyfer lleoliad penodol. A ddylai hyn fod yn rôl i'r llywodraeth?

- Dylai grwpiau cymunedol coetir gael gwell cydlyniad a chefnogaeth gan NRW, ond mae angen mwy o adnoddau ar NRW er mwyn gallu ymgymryd ā'r cyfrifoldeb hwn.

- Nid oes gan NRW yr adnoddau i sicrhau bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru (2015) yn cael ei gweithredu ar lefel gymunedol - mae'n cael ei lastwreiddio.

- Nid oes fformiwla gydlynol i gymunedau i 'reoli' coetiroedd cymunedol mewn gwirionedd - heb ymdeimlad o berchnogaeth, ni allant reoli'r coetiroedd yn effeithiol.

- Oherwydd nad ydynt yn berchen ar y coetiroedd, mae angen caniatâd ar gymunedau i ymgymryd â gweithgareddau ynddynt. Ar hyn o bryd mae'r broses ymgeisio yr un fath ar gyfer defnyddio cerbyd modur a defnydd gan wirfoddolwyr rheoli coetiroedd. Mae Tîm Ardal NRW yn ceisio gwneud y broses hon yn symlach i gymunedau.

- Mae yna ddryswch ynghylch a yw coetiroedd cymunedol ar gyfer y gymuned leol yn unig, neu a ydynt ar gyfer y genedl - a ddylent ddarparu cyfleusterau i'r rhai sy'n ymweld o leoedd eraill?

 

02. A yw cymunedau lleol yn cael dweud eu dweud yn ddigonol mewn penderfyniadau ynghylch cynllunio a rheoli coetiroedd?

- Yn achos Coetir Ysbryd Llynfi, treuliodd NRW ddwy flynedd yn ymgynghori ac ymgysylltu â phobl yn y cwm cyn i'r prosiect ddechrau. Fodd bynnag, mae canfyddiad nad oedd NRW mewn gwirionedd yn gwrando ar y cymunedau y buont yn ymgynghori â nhw. Gwelir NRW a chymunedau yn dysgu sut i gydweithio'n effeithiol yn broses raddol.

- Mae pryder nad oes digon o wybodaeth yn cael ei darparu ynghylch sut y gallai prosiectau datblygu sy'n digwydd o fewn coetiroedd ac wrth ymyl coetiroedd, ee cau llwybrau troed, effeithio ar fynediad at goetiroedd a'r mwynhad ohonynt.  Fodd bynnag, ymdrinnir â hyn drwy'r Ddeddf Gynllunio.

- Dylai grwpiau coetir cymunedol gael rôl yn y Datganiadau Ardal. Nid yw pobl yn gwybod sut mae'r rhain wedi'u diffinio a sut y gallant fwydo i mewn i hyn.

- Mae pryder ynglŷn â gwybodaeth nad yw'n mynd i randdeiliaid perthnasol. Beth yw 'rhanddeiliad perthnasol'? Nid yw pobl nad ydynt yn rhan o grŵp gweithredol/amlwg yn gwybod sut i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed.

- Mae angen mecanwaith ar gyfer ymgysylltu parhaus trwy gydol oes. Mae plant ifanc yn aml yn ymgysylltu â choetiroedd ond mae angen inni gynnal eu diddordeb.

 

03. Pa rôl y gall coetiroedd ei chwarae wrth gyfrannu tuag at les cymunedol ac adfywiad economaidd mewn cyn gymunedau diwydiannol?

- Mae NRW yn gweithio gyda'r cymunedau yng Nghwm Llynfi Uchaf i adfer cyn  safleoedd Glofa Coegnant a Golchdy Maesteg yn goetir cymunedol newydd. Mae trigolion lleol, grwpiau cymunedol ac ysgolion oll wedi bod yn rhan o blannu coed, yn ogystal â chyfrannu syniadau am yr hyn y maent am ei weld ar y safle; er enghraifft, coed ffrwythau, llwybrau rhedeg a beicio, llwybr gweithgareddau cŵn, llwybr synhwyraidd i bobl anabl, ardal wlyptir newydd, cerfluniau (megis y cerflun derw poblogaidd o löwr), capsiwl amser a cherddi.

- Prif sbardun y prosiect yw iechyd a llesiant y cymunedau cyfagos (sydd â disgwyliad oes 20 mlynedd yn fyrrach na phobl ym Mhen-y-bont ar Ogwr gyfagos), yn ogystal â manteision amgylcheddol megis lleihau perygl llifogydd a hybu bioamrywiaeth.

- Fodd bynnag, mae pryder nad oes digon o amddiffyniad a hyrwyddo wedi bod mewn perthynas â threftadaeth ddiwydiannol y safle (ee awgrymwyd nad yw'r hen reilffordd wedi'i chynnal). Fodd bynnag, mabwysiadwyd y llwybr fel llwybr beiciau a marchogaeth).

- Mae yna 30,000 o goed yng Nghoetir Ysbryd Llynfi, gan gynnwys dwy berllan gymunedol lle gall aelodau'r gymuned leol fynd i hel ffrwythau. Mae yna ardal wlypdir hefyd ac mae cynlluniau i greu man chwarae i blant a champfa werdd i oedolion.

- Ni chafwyd unrhyw bwyslais ar gynhyrchu pren ar gyfer adeiladu yn y coetir oherwydd ei fod wedi'i adnabod fel coetir ar gyfer defnydd cymunedol, i wella iechyd a llesiant.

 

04. Beth yw'r rhwystrau i gynyddu mynediad i goetiroedd Cymru?

- Mae cynyddu mynediad i goetiroedd yn broses araf, oherwydd rhwystrau rheoleiddiol ac ar y ddaear. Er enghraifft, mae un mecanwaith ar gyfer cael mynediad i dir at wahanol ddibenion nad yw'n gweithio oherwydd nad yw un dull yn addas i bawb. NRW yw ceidwad ystâd Coetir Ysbryd Llynfi ac mae deddfwriaeth yn gwahardd trosglwyddo coetiroedd i gymunedau. Mae yna restr hefyd o bethau y mae angen i NRW eu gwneud cyn y gall gytuno y bydd cymunedau'n rheoli safleoedd coetiroedd ac mae'n rhaid cael cytundeb ysgrifenedig. Mae canfyddiad nad yw'r Llywodraeth yn gweithredu'n ddigonol ar hyn; er enghraifft, mae'n broses hir a drud i gael mynediad trwy lwybr troed newydd.

- Mae un aelod o staff NRW yn y tîm Mynediad sydd wedi'i leoli yn y gogledd. Mae'r aelod o staff hwnnw yn ceisio cysylltu NRW â chymunedau ond nid ydynt yn siarad yr un iaith.

- Mae rhwystrau i ddefnydd cymunedol yn cynnwys methu â chael yswiriant ar gyfer pethau fel cynaeafu coed at ddibenion cymunedol. A all NRW helpu gyda hyn?

 

Pwyntiau eraill

- Mae torri coed yn dal i ddigwydd; ceir canfyddiad nad yw coetiroedd ar hyn o bryd yn ddeniadol iawn, yn enwedig yn dilyn torri coed llarwydd. Gyda beth y byddan nhw'n ailstocio?

- Mae arian cymunedol fel arfer yn nodweddiadol am uchafswm o dair blynedd. Nid yw hyn yn ddigon hir ar gyfer rheoli neu gynaeafu hirdymor.

- Yn gyffredinol, pobl hŷn sy'n rhedeg grwpiau coetiroedd. Mae angen targedu'r genhedlaeth iau a gwneud coetiroedd yn 'cŵl' eto. Dylem annog pobl ifanc a chynnal gwaith Bagloriaeth Cymru gyda grwpiau cymunedol i chwarae rhan arwyddocaol yn hynny o beth. Nid oes digon o ysgolion a phrifysgolion yn ymwneud â choetiroedd a chefn gwlad ehangach. Yn rhannol, mae hyn oherwydd nad yw tîm addysg NRW yn bodoli mwyach, tra bod arian ar gyfer prosiectau fel y cynllun Mosaic yn fyrdymor yn unig. Mae canfyddiad bod cyllid wedi gostwng ers i NRW gael ei sefydlu.

- Mae angen rhoi coetir ar yr agenda gwleidyddol a'i ystyried fel ased yn hytrach na phroblem trwy droi'r manteision y mae'n eu cynnig i'r gymdeithas yn arian.

- Mae angen integreiddio gwahanol fathau o fanteision; mae defnyddiau cynhyrchiol a chymunedol yn gweithredu ar hyn o bryd mewn silos.

- Mae angen clywed lleisiau cymunedol.

- Rhaid cynnal a gwella mynediad i goetiroedd, tra bod angen amrywiaeth o ran rhywogaethau i wella golwg coetiroedd.

- Dylai ysgolion chwarae fwy o ran. Gweithiodd Cymunedau yn Gyntaf gyda NRW i fynd â grŵp o ddisgyblion Blwyddyn 6 i'r coetir. Anogwyd y disgyblion i ddweud beth hoffent ei weld yn y coetir ac i ysgrifennu barddoniaeth. Mae rhai o syniadau'r disgyblion, megis llwybrau cŵn, wedi'u rhoi ar waith.

- Mae angen i berchnogion tir (gan gynnwys NRW ac awdurdodau lleol) gael mwy o ffydd mewn cymunedau; rhowch y gefnogaeth a'r ymddiriedaeth sydd eu hangen arnynt i fod yn warchodwyr coetiroedd.

- Mae canfyddiad bod coetiroedd bob amser yn ymddangos yn isel ar yr agenda gwleidyddol. Mae pobl yn gweld coed fel problemau yn hytrach na phethau gwerthfawr, ac nid ydynt yn sylweddoli potensial coetiroedd.

 

Grŵp 2 - Grwpiau defnyddwyr hamdden

Cyfranogwyr:

- Rebecca Brough – Cerddwyr Cymru

- Mark Weston, Cymdeithas Ceffylau Prydain

- Rachel Evans, y Gynghrair Cefn Gwlad

- Ian Danby, Cymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain

- Daniel Gomm, Bike Park Wales

- Marianne Walford, Trail Rides Wales

- Robin Hickin, Trail Riders Fellowship Limited

- Duncan Green, Ymddiriedolaeth Treadlightly

 

- Roedd consensws yn y grŵp nad oes gan NRW ddull strategol o reoli mynediad yn y coetir y mae'n ei reoli. Ymddengys bod y dull cyfredol yn amrywio o ardal i ardal ac yn dibynnu ar bersonoliaethau unigol. Byddai arweinyddiaeth a chysondeb gan NRW yn caniatáu mwy o gyfleoedd mynediad.

- Mae rhai enghreifftiau da o NRW a grwpiau defnyddwyr yn cydweithio i gynyddu cyfleoedd mynediad; er enghraifft gyda phrosiectau beicio mynydd. Dylid adeiladu ar y rhain a'u cyflwyno i wneud NRW yn enghraifft i berchnogion coetiroedd preifat i'w ddilyn.

- Cafwyd trafodaeth ynghylch a ddylid defnyddio dull rhanbarthol ar gyfer gwahanol fathau o ddefnyddiau hamdden. Fodd bynnag, teimlwyd y gallai'r dull hwn fod yn rhy gyfyngol ac y byddai dull seiliedig ar egwyddorion yn hwyluso mwy o fynediad yn gyffredinol.

- Roedd teimlad bod NRW yn colli cyfle i gynhyrchu refeniw. Byddai llawer o grwpiau defnyddwyr, er enghraifft y rhai sy'n ymwneud â cherbydau modur, yn fodlon talu am fynediad i dir a reolir gan NRW.

- Pwysleisiwyd y pwynt, fodd bynnag, na ddylai grwpiau defnyddwyr sydd â hawliau mynediad, fel cerddwyr a marchogion, dalu am yr hyn y gallant ei ddefnyddio eisoes fel hawl.

- Roedd teimlad y gellid agor mwy o dir a reolir gan NRW a bod mwy na digon o goetir i  ddiwallu anghenion yr holl grwpiau defnyddwyr hamdden gwahanol.

- Ymddengys bod NRW yn rhy amharod i gymryd risg ac nid oes ganddo'r adnoddau angenrheidiol i gynyddu a hyrwyddo cyfleoedd mynediad. Mae yna fyddin o wirfoddolwyr sy'n gysylltiedig â'r grwpiau defnyddwyr - mae hwn yn adnodd y gallai NRW ei ddefnyddio mwy.

- Ychydig iawn o wrthdaro gwirioneddol sydd rhwng y gwahanol grwpiau defnyddwyr; maent yn parchu eu hanghenion ei gilydd. Mae problem gyda gweithgareddau anghyfreithlon, megis defnyddio cerbydau modur, beicio mynydd a saethu anghyfreithlon, ond gellid mynd i'r afael â hyn trwy ddull strategol at fwy o fynediad wedi'i reoli.

- Cytunwyd po fwyaf o fynediad a reolir sydd yna i goetiroedd, y mwyaf o  hunan-blismona gan ddefnyddwyr sy'n digwydd. Nid yw defnyddwyr anghyfreithlon yn tueddu i ddymuno mynd i ardaloedd lle mae eraill yn cael mynediad yn gyfreithlon i'r coetir.

- Cytunwyd y dylid annog cyfleoedd mynediad i bobl anabl a phobl sy'n gwella o gyflyrau iechyd.

- Mae mynediad i goetiroedd preifat yn dibynnu ar y berthynas rhwng y grwpiau defnyddwyr a pherchennog y tir. Mae grwpiau cerbydau modur a saethu yn defnyddio'r dull hwn.

- Trafodwyd materion mynediad ehangach â rhanddeiliaid a oedd am weld y rhwydwaith hawliau tramwy presennol yn cael ei gynnal yn iawn, a bylchau yn y rhwydwaith yn cael eu llenwi.

- Pwysleisiwyd pwysigrwydd mynediad i gefn gwlad i dwristiaeth yng Nghymru. Gofynnwyd a oedd mynediad yn ymddangos yn ddigon amlwg yng Nghynlluniau Rheoli Cyrchfan awdurdodau lleol.

- Dylid adlewyrchu materion mynediad yn gywir mewn dogfennau sydd ar ddod megis Datganiadau Ardal a Chynlluniau Llesiant Lleol.

- Cytunwyd y dylai cynllun talu rheoli tir ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol gynnwys cymhellion i reolwyr tir wella mynediad i'w tir. Pwysleisiwyd pwysigrwydd arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio er lles y cyhoedd.

 

Hoffai'r Pwyllgor ddiolch i'r rhai a fynychodd y seminar a chymryd yr amser i rannu eu barn.